Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru | The impact of Brexit on fisheries in Wales

FW 08

Ymateb gan : Cyngor Sir Penfro

Evidence from : Pembrokeshire County Council

 

 

1.    Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o ymateb i’r Ymchwiliad hwn o ystyried pwysigrwydd pysgota i economi Sir Benfro. 

 

2.    Mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn cofnodi’r glaniadau yn naw o borthladdoedd Sir Benfro (ynghyd ag Aberteifi lle mae rhai o gychod fflyd Sir Benfro yn glanio). Yr oedd rhwng 47% a 52% o’r holl laniadau yng Nghymru yn ôl pwysau yn y deg porthladd hyn yn ystod 2011-2014.

 

3.    Yr oedd 126 o gychod yn fflyd Sir Benfro yng Ngorffennaf 2015, a dim ond deg ohonynt oedd yn hwy na deg metr. Mae’r rhan fwyaf o’r cychod yn fflyd Sir Benfro yn addas ar gyfer pysgota ar hyd y glannau yn unig, gan dargedu rhywogaethau nad ydynt yn destun cwota, sef pysgod cregyn yn bennaf. Ffrainc, Sbaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal a Gweriniaeth Iwerddon yw’r prif wledydd yr allforir pysgod cregyn y DU iddynt.[1]  Wrth gwrs mae’r rhain oll yn Aelod-wladwriaethau o’r Undeb Ewropeaidd (UE27).

 

4.    Gwyddom fod barn amrywiol yn y sector pysgota ynghylch effaith Brexit, ond nid ydym yn barnu bod rheswm dros fod yn optimistaidd.  Fel rheol dywedir mai cyfyngu ar allu llongau’r UE27 i gael mynediad i ddyfroedd y DU ynghyd â chwota ychwanegol i longau’r DU yn nyfroedd y DU fydd y prif fanteision i’r sector pysgota yn sgil Brexit.[2]  Fodd bynnag, gan nad yw fflyd Sir Benfro yn addas i bysgota y tu hwnt i’r glannau a chan nad yw’r fflyd yn targedu rhywogaethau cwota, mae’n annhebygol y byddai’r manteision posibl hyn yn sgil Brexit yn fanteisiol i Sir Benfro.

 

5.    Yn waeth byth, gan fod llawer o’r pysgod cregyn a ddelir yn Sir Benfro yn mynd i’r UE, mae’r posibilrwydd y bydd oedi wrth groesi ffiniau, os bydd y DU y tu hwnt i’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yn peri bygythiad i allu ein diwydiant pysgota i ddal i fod yn gystadleuol yn y marchnadoedd hynny. Hefyd gellir disgwyl y bydd costau a biwrocratiaeth allforio yn cynyddu.

 

6.    Felly yr ydym yn pryderu y bydd Brexit yn niweidio diwydiant pysgota a chymunedau pysgota Sir Benfro yn hytrach na bod o fudd iddynt, er gwaetha’r ffaith bod rhai yn y diwydiant yn optimistaidd ynghylch eu rhagolygon ar ôl Brexit.

 

7.    Byddem yn falch o ymhelaethu ar y sylwadau hyn petai’r Pwyllgor yn gofyn am hynny.

 

Y Dr Steven Jones

Y Cyfarwyddwr Datblygu



[1] “Study of Pembrokeshire’s Fishing Industry and Communities” Ymgynghoriad gan Cam Nesa ar gyfer Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Cleddau to Coast (2015).

[2] “Fisheries: The Transition Agreement and Future Arrangements” British Influence Senior European Experts (Mai 2018). Ar gael: https://senioreuropeanexperts.org/category/brexit/